Deiseb a gwblhawyd Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion

​Rydyn ni, plant Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Aidan, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y ffordd rydyn ni'n defnyddio poteli llaeth plastig mewn ysgolion. Bob dydd yng Nghymru, rydym yn defnyddio oddeutu 300 cilogram o boteli llaeth plastig fel rhan o'r cynllun llaeth am ddim mewn ysgolion. Credwn ei fod yn portreadu barn negyddol o ran cynaliadwyedd, am fod mwy o bobl yn prynu mwy o blastig. Mae'n warthus faint o boteli plastig rydyn ni'n eu defnyddio.

Gwneir plastig allan o nwy naturiol, olew crai a glo. Rydym yn defnyddio tua 4,000 o boteli plastig bron bob blwyddyn ar gyfer y cynllun llaeth am ddim hwn. Rydyn ni am i chi wahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion. Rydyn ni'n awgrymu y dylai pob ysgol yng Nghymru brynu poteli mawr o laeth a'i arllwys i gwpanau plastig y gallwn eu defnyddio eto. Rydym yn defnyddio tanwyddau ffosil yn gyflymach nag y gallwn eu datblygu. Diolch i chi am ddarllen y ddeiseb hon ac am helpu'r wlad, gobeithio, i waredu ar y gwastraff hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

369 llofnod

Dangos ar fap

5,000