Deiseb a gwblhawyd Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i dynnu'n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref.

Rhagor o fanylion

​Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref. Mae hyn yn mandadu bod yn rhaid i rieni sy’n addysgu yn y cartref gwrdd â’u hawdurdod lleol a chaniatáu i’r awdurdod lleol gyfweld â’u plant. Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol arbenigol sy’n hawlio bod y canllawiau’n anghyfreithlon ac mae’r deisebwyr yn gofyn bod y canllawiau’n cael eu tynnu’n ôl i’w hailystyried yng ngoleuni’r cyngor hwnnw.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,447 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd y diwygiadau arfaethedig i reoliadau a chanllawiau addysg gartref yn cael eu dwyn ymlaen cyn etholiadau Senedd 2021: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-canllawiau-statudol-ar-addysg-yn-y-cartref-rheoliadau-drafft-y-gronfa-ddata