Deiseb a gwblhawyd Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo
Roedd erthygl a gyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2018 yn nodi bod 178,000 o lawdriniaethau yng Nghymru wedi'u canslo yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf (2016-2018), 70,000 oherwydd rhesymau anghlinigol. Cafodd 90,000 eu canslo yn 2017/18.
Yn 2012 bu farw fy mab. Cafodd ei roi ar y rhestr aros am driniaeth tonsilectomi brys ym mis Medi 2011. Canslwyd y llawdriniaeth gyntaf oherwydd nad oedd gwely HDU ar gael, a gwnaethom ni ganslo'r ail a'r trydydd gan nad oedd Dylan yn ddigon da. Cafodd y pedwerydd llawdriniaeth, sef yr olaf, ei ganslo oherwydd nad oedd gwely HDU ar gael, ac roedd y driniaeth hon i fod i ddigwydd y diwrnod y bu farw.
Daeth ymchwiliad i'r casgliad pe bai wedi cael y llawdriniaeth y byddai wedi gwella'n llwyr.
Rydym bellach yn prysur agosáu at bron i ddegawd ers ei farw, a rhoddodd bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro sicrwydd imi fod newidiadau wedi'u rhoi ar waith. Mae wedi dod yn amlwg o ystyried y ffigurau eithriadol o uchel hyn nad oes unrhyw beth wedi newid.
Galwaf ar Vaughan Gething, a Chynulliad Cymru i roi newidiadau ar waith i sicrhau bod nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo yn cael ei lleihau'n ddramatig. Yn bersonol, rwy'n credu bod y ffigurau hyn yn ffiaidd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon