Deiseb a gwblhawyd Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

Ar ôl gweld beth roddodd y GIG fi a fy ngwraig drwyddo pan oedd hi'n colli plentyn drwy gamesgoriad: cael ein hanfon i gael sgan gyda darpar famau a chael gwybod, 'Rydych chi'n cael camesgoriad, ewch adref', a dyna ni. Roedd yn rhaid i ni ddod yn ôl ychydig ddyddiau wedyn ac eistedd mewn ystafell gyda phobl a oedd yn dod allan â'u lluniau o'r sgan. Doedd hynny ddim yn deg. Mae angen ward ar wahân. 

Rhagor o fanylion

​Pan wnaethom ni ofyn a oedd rhywle arall y gallem ni aros cawsom wybod nad oedd unrhyw le. Cafodd hyn effaith niweidiol enfawr ar ein hiechyd meddwl. Sut oedden nhw'n gwybod ein bod ni'n ddigon cryf i adael yr ysbyty? Doedden nhw ddim yn gwybod. Mae angen i hynny newid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

52 llofnod

Dangos ar fap

5,000