Deiseb a gwblhawyd Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cyflwyno Llysgenhadon Llesiant hyfforddedig, fel bod pob plentyn yn cael cyfle i gael cefnogaeth cyfoedion gan fyfyrwyr model rôl sydd wedi'u hyfforddi i fod yn gyfaill i ddisgyblion sy'n agored i niwed yn ystod amser egwyl ac amser cinio, a fydd yn rhoi gwybod am faterion bwlio a bod yno fel ffrind i ddisgyblion a allai deimlo'n unig ar adegau penodol drwy gydol y dydd. Rydym yn gobeithio y bydd Rolau Llysgenhadon Llesiant yn datblygu/esblygu i redeg mentrau mewn ysgolion, yn y sir ac yn genedlaethol, er mwyn sicrhau bod ymgyrch o neges glir o ddim goddefgarwch i fwlio a bod lles yr holl ddisgyblion yn cael ei roi ar y pwys mwyaf ym mhob ysgol, i gefnogi hawliau'r plentyn ymhellach. Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn mynd ymhellach er mwyn helpu i leihau faint o fwlio a welir mewn ysgolion ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus mewn ysgolion ledled Cymru.
Rhagor o fanylion
Yn 2016, cawsom ein dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o brosiect ENABLE, menter yn y DU i dreialu gwersi gwrth-fwlio. Roedd rhan o'r fenter yn cynnwys hyfforddi disgyblion i gefnogi cyfoedion. Fodd bynnag, penderfynwyd mynd â hyn gam ymhellach drwy hyfforddi disgyblion i ddod yn llysgenhadon gwrth-fwlio. Ar ôl llawer o drafod gyda'n Senedd Ysgol, esblygwyd y cynllun llysgenhadon, gan newid ei enw i lysgenhadon llesiant. Roeddem am symud i ffwrdd o ddefnyddio'r gair bwlio yn rhy aml gan ein bod yn teimlo nad oedd disgyblion yn deall y gwahaniaeth rhwng gwrthdaro a bwlio. Roeddem hefyd eisiau i ddisgyblion wybod mai llesiant yw ein prif flaenoriaeth. Bydd disgyblion sy'n rhan o'r cynllun yn crwydro ardaloedd o amgylch yr ysgol, yn sylwi ar ddisgyblion sydd ar eu pennau eu hunain neu os ydyn nhw'n gweld bwlio yn digwydd maen nhw'n rhoi gwybod i'r oedolyn agosaf y maent yn ei weld, o'r Pennaeth i oruchwylwyr cinio.
Rydyn ni'n cwrdd unwaith y mis fel grŵp a phob blwyddyn rydyn ni'n esblygu'r cynllun ymhellach. Ar hyn o bryd rydyn ni'n edrych ar feinciau cyfeillion fel bod disgyblion sy'n teimlo'n unig yn gallu eistedd yno a bydd llysgennad llesiant yno i'w cefnogi. Mae llawer o'n llysgenhadon hefyd yn aelod o'r Bwrdd Amddiffyn Iau o ganlyniad.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon