Deiseb a wrthodwyd Grwpiau Cymraeg i Blant ar gyfer Cas-gwent a Chil-y-coed
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ddarpariaeth cyn ysgol ar gyfer y Gymraeg yn ne Sir Fynwy a sicrhau bod o leiaf un grŵp Cymraeg i Blant yng Nghil-y-coed ac un grŵp yng Nghas-gwent.
Roedd grwpiau'n arfer cael eu cynnal yng Nghas-gwent a Chil-y-coed, nes yr ystyriwyd ei bod yn addas eu symud i rywle arall. Roedd llawer iawn o bobl yn cefnogi'r grwpiau hyn ac mae colled fawr ar eu hôl. Mae tuedd amlwg tuag at ddarpariaeth mewn rhannau eraill o'r sir - er bod y cyllid ar gyfer Sir Fynwy gyfan. Mae dau grŵp yn Nhrefynwy, tri yn y Fenni, ac mae un yr un yn Rhaglan a Brynbuga. Mae'n llai na 10 munud yn y car o Raglan i Frynbuga ac mae'r boblogaeth ar y cyd yno'n llai na 5,000.
Y ffordd orau o gyrraedd y nifer fwyaf o deuluoedd fyddai cael Dosbarth Tylino ac Ioga Babanod i fabanod iau mewn un dref, a Stori, Rhigwm ac Arwydd i fabanod hŷn a phlant bach yn y llall. Mae hyn yn adlewyrchu'r ddarpariaeth mewn rhannau eraill o'r sir, a hefyd yr hyn a oedd gennym o'r blaen.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi