Deiseb a gwblhawyd Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

​Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cymudwyr ar hyd Arfordir Gogledd Cymru wedi cael gostyngiad mewn gwasanaethau trenau yn ystod oriau brig er eu bod yn talu rhai o'r prisiau tocynnau trên mwyaf (o fesur y teithiau fesul milltir) yn y DU.

Mae'r toriadau hyn i wasanaethau eisoes wedi arwain at ostyngiad yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio gorsafoedd trenau Gogledd-ddwyrain Cymru, gyda mwy a mwy o gymudwyr yn gorfod gyrru, gan ychwanegu at y tagfeydd ar yr A55.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) bellach yn bwriadu torri'r unig wasanaeth trên oriau brig gyda'r hwyr rhwng Bangor a Bae Colwyn, y Rhyl, Prestatyn a'r Fflint, sef y gwasanaeth 17:16 o Fangor. Bydd hyn yn gorfodi cymudwyr i newid trenau yng Nghyffordd Llandudno, lle y bydd yn rhaid iddynt aros am fwy nag awr am drên cyswllt.

Mae canslo'r gwasanaeth trên hwn yn mynd yn hollol groes i bolisi Llywodraeth Cymru ar sawl cyfrif:

1) Bydd yn arwain at fwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy orfodi pobl oddi ar drafnidiaeth gyhoeddus i'w ceir, ar adeg o "argyfwng hinsawdd".

2) Bydd yn gwrthod mynediad i Brifysgol Bangor i'r rhai sy'n byw mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i orfodi TrC i ailystyried a sicrhau bod y gwasanaeth trenau yng Ngogledd Cymru yn ddigon aml a fforddiadwy i annog cymudwyr i ddod oddi ar y ffyrdd ac ar y trenau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

953 llofnod

Dangos ar fap

5,000