Deiseb a gwblhawyd Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a ddefnyddir i ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, gall unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru. Mae’r sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau sy’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl sy’n byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas a phobl a gafodd eu rhyddhau’n ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati.

Ar yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol. Yn rhy aml, bydd y datblygiadau hyn yn difetha cymunedau.

Er mwyn datrys y broblem hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod o bum mlynedd cyn y byddai’n gymwys i gael tŷ cymdeithasol. Yr unig eithriadau fyddai ffoaduriaid gwleidyddol a phobl eraill sy’n ceisio dianc o sefyllfaoedd lle maent yn cael eu herlid.

Rhagor o fanylion

Yn gynharach eleni, dedfrydwyd aelodau o gang o bedoffiliaid i gyfnodau hir o garchar yn Llys y Goron Abertawe. Cartrefwyd aelodau’r gang hon yng Nghydweli gan Grŵp Gwalia, sef darparwr tai cymdeithasol. Roedd aelodau’r gang hon yn dod o Lundain yn wreiddiol ac roedd ganddynt ddedfrydau blaenorol, felly pam y cawsant eu lleoli mewn tref fach yng Nghymru?

Yn anffodus, mae’r achos hwn yng Nghydweli yn un o nifer o enghreifftiau lle mae troseddwyr cydnabyddus a phobl annymunol eraill wedi cael eu cartrefu yng Nghymru. Mae’r achosion hyn wedi arwain at ddrwgdybiaeth gynyddol bod Cymru’n cael ei defnyddio fel tomen gan awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn Lloegr. Yn ogystal, mae cyrff yng Nghymru wedi helpu’r sefyllfa hon i ddatblygu drwy dderbyn taliadau premiwm yn gyfnewid am gartrefu pobl o’r fath.

Gan fod darparwyr tai cymdeithasol yn cael eu cofrestru a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, siawns ei bod yn bryd adolygu rôl, cyfrifoldebau a threfniadau ariannu darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

115 llofnod

Dangos ar fap

5,000