Deiseb a wrthodwyd Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i osod cyfyngiadau llymach ar ddefnyddio dyfeisiau diwifr mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd.

Rhaid i rieni / gofalwyr gael gwybod am y peryglon iechyd sydd wedi'u darganfod.

Rhaid sicrhau caniatâd rhieni / gofalwyr ymlaen llaw cyn gosod / defnyddio dyfeisiau WiFi.

Rhaid i'r canlyniadau canrannol fod yn glir i'r holl rieni / gofalwyr a'r rheini sydd â dyletswydd gofal.

Rhaid sicrhau nad oes dyfeisiau WiFi yn cael eu defnyddio mewn un rhan o'r adeilad ar gyfer y rhai sydd yn erbyn defnyddio'r dyfeisiau hyn.

Os yw'r canlyniadau'n dangos nad yw'r rhieni/gofalwyr yn rhoi caniatâd, a'r ysgol eisoes yn defnyddio dyfeisiau WiFi a diwifr amrywiol, rhaid dadactifadu'r WiFi/Bluetooth a rhaid rhag-raglennu cymwysiadau addysgol ar gyfrifiaduron / tabledi etc.

Rhagor o fanylion

​Cyhoeddodd WHO (Sefydliad Iechyd y Byd) ynghyd ag IARC (yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser) ysgrif yn archwilio pa mor garsinogenig yw ymbelydredd tonnau radio-amledd electromagnetig 30 KHZ i 300GHZ.

Dyfyniad,

"Nid yw'n ystyried ffonau symudol yn benodol, ond yn hytrach y math o ymbelydredd sy'n cael ei allyrru gan ffonau symudol a ffynonellau eraill."

"Mae'r math hwn o ymbelydredd yn cael ei allyrru gan ddyfeisiau a ddefnyddir i gyfathrebu'n ddiwifr gan gynnwys ffonau symudol a ffynonellau eraill."

Rhaid sicrhau bod rhieni / gofalwyr yn ymwybodol y gall dyfeisiau WiFi sy'n agos at y corff gynhyrchu cymaint o ymbelydredd â ffonau symudol (uchafswm tebyg o ran cyfraddau amsugno penodol, SARs) felly gall yr effeithiau fod yn debyg i effaith cadw ffonau symudol yn agos at y corff.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi