Deiseb a gwblhawyd Dylai llythyrau meddygon teulu fod am ddim i fyfyrwyr

​Ar hyn o bryd, os bydd angen llythyr meddyg teulu ar fyfyriwr i gefnogi hawliad amgylchiadau esgusodol neu am dystiolaeth ar gyfer cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), bydd y meddyg teulu yn codi tua £35 ar y myfyriwr (gan ddibynnu ar y feddygfa). Oherwydd hyn, ar ben yr anawsterau posibl i fyfyrwyr o ran eu hiechyd, o ran anableddau dysgu, a/neu o ran anableddau, mae'n rhaid iddynt dalu i gael dogfen sy'n dangos hynny. I lawer o fyfyrwyr (yn enwedig y rhai o gefndiroedd tlotach), golyga hyn eu bod yn cael trafferth i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i allu cwblhau eu cwrs gradd, ac mewn rhai achosion i gael dau ben y llinyn ynghyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

144 llofnod

Dangos ar fap

5,000