Deiseb a gwblhawyd Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Mae pryderon difrifol y bydd adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cau, neu'n cau'n rhannol, cyn bo hir
Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar fynediad cleifion yn Rhondda Cynon Taf at adran Damweiniau ac Achosion Brys, a bydd hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym Merthyr Tudful, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud popeth yn ei gallu i atal unrhyw ostyngiad yn y gwasanaeth o ran darpariaeth gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwneud popeth yn ei gallu i hwyluso'r broses o recriwtio a phenodi Ymgynghorwyr Damweiniau ac Achosion Brys ar y bwrdd iechyd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl
Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni'r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gadw Adran Achosion Brys amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Gellir gweld y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor yma: https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=27948&Opt=3