Deiseb a gwblhawyd Achub y caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru atal ei chynlluniau i werthu'r caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn ar gyfer 460 o dai. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i beidio â gwerthu'r tir ar gyfer codi tai a rhoi'r gorau i'w chynlluniau ar gyfer y datblygiad y cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar ei gyfer yn 2018. Os na ellir atal y datblygiad yn llwyr, gofynnwn am i rai o'r caeau gael eu gadael yn eu cyflwr naturiol. Gweinidogion Cymru sy'n berchen ar y tir. Rydym yn annog i Weinidogion Cymru roi sylw i'r Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd ganddynt a chadw at egwyddorion Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol trwy dynnu yn ôl, neu leihau'n sylweddol, y cynlluniau ar gyfer adeiladu ar y caeau Cymreig hyfryd hyn.
Mae'r caeau'n ffinio ar Goed-yr-Hendy (coetir hynafol), Afon Clun a Chors y Pant, sy'n safle gwarchod natur. Mae gan y caeau ddwy dderwen fawr a chyfoeth o wrychoedd, ac yn rhannau gogleddol y caeau mae nifer dda o lasbrennau coed derw. Bydd gwaith codi tai yn niweidio'r gwrychoedd a'r glasbrennau. Mae Coed-yr-Hendy a'r caeau yn gartref i nifer fawr o adar, mamaliaid bach a phryfed; gwelir adar ac ystlumod yn gyson yn hela eu bwyd uwchben y caeau - ni ddylem ni fynd â hyn oddi arnyn nhw. Bydd adeiladu ar y caeau hyn yn cael effaith drychinebus ar fywyd gwyllt lleol a'r system ecolegol leol.
Yng ngoleuni Argyfwng Hinsawdd y wlad hon, mae cadw ein coed, ein gwrychoedd a'n mannau gwyrdd yn dod yn bwysicach fyth o gofio sut maen nhw'n amsugno ac yn hidlo carbon deuocsid a llygryddion aer eraill, ac maen nhw'n helpu gyda draenio dŵr glaw ac yn helpu i leihau erydiad y pridd. Byddai parhau â ffermio defaid ar y caeau hyn yn dod â buddion aruthrol i'n hamgylchedd ym Meisgyn a thu hwnt. Dyma gyfle i Weinidogion Cymru fod yn gall am yr hinsawdd ac achub y safle maes glas hwn.
Rhagor o fanylion
Mae ffermwyr tenant wedi bod yn ffermio defaid ar y caeau hyn ers degawdau. Hefyd, ers dros 70 o flynyddoedd, mae teuluoedd lleol wedi bod yn defnyddio'r caeau hyn ar gyfer hamdden a mwynhau byd natur. Gwnaed cais Maes Pentref yn 2017, ac er ei fod yn bodloni llawer o'r meini prawf cyfreithiol, methodd y cais yn y pen draw. Fodd bynnag, fe nododd yr Arolygydd fod tystiolaeth glir bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon a difyrion cyfreithlon.
Mae goblygiadau o ran traffig ac isadeiledd; mae ysgolion lleol a gwasanaethau iechyd yn debygol o ddioddef yn sgil datblygiad anghynaladwy. Mae llygredd uchel iawn ar yr A4119, sy'n rhedeg yn ymyl rhai o'r caeau. Mae ardal rheoli ansawdd aer ar yr A4119 yn union gyfagos i'r safle hwn. Mae "Adroddiad Cynnydd o Ansawdd Aer 2019" Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dangos bod darlleniadau o Nitrogen Deuocsid (NO2) ar gyfer yr ardal rheoli ansawdd aer hon wedi bod yn uwch na therfyn cyfreithiol yr UE a'r DU am 12 o'r 13 blynedd diwethaf. Mae miloedd o gartrefi yn cael eu hadeiladu lai na 10 munud i ffwrdd yn y car yng Nghreigiau, Plasdŵr a Llanilid. Rydym yn cwestiynu'r angen i adeiladu ar y caeau hyn. Nid yw ychwanegu tua 1000 o drigolion at boblogaeth Meisgyn yn gynaliadwy i'r pentref bach (dim siopau, dim gwasanaethau iechyd, ac un ysgol gynradd Gymraeg); bydd 460 o dai ychwanegol yn golygu nifer enfawr o deithiau car newydd i gyrraedd gwasanaethau ac ysgolion. Mae gan drigolion lleol bryderon bod y cynlluniau caniatâd cynllunio amlinellol a gyflwynwyd ar ran Gweinidogion Cymru yn 2017 hefyd wedi diystyru agweddau ar Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf - yn benodol trwy beidio ag ymrwymo i ddarparu ysgol, gan fod mwy na'r 400 o dai a nodwyd, trwy beidio â chynnwys cyfnewidfa aml-lefel ar wahân i'r A4119, a thrwy geisio adeiladu ar dir yn union gyferbyn ag Ysgol Llantrisant (nad yw yn y Cynllun Datblygu Lleol). Bydd gwaith adeiladu yno gollwng mygdarth yn uniongyrchol i'r ysgol a'r maes chwarae am flynyddoedd, yn ogystal â'r cynnydd yn y traffig - gan greu mwy o lygredd a pheryglon traffig i blant.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon