Deiseb a gwblhawyd Problemau gyda’r GIG ar gyfer y Byddar

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y GIG yn darparu gwasanaeth gwell i bobl â nam ar eu clyw.

Os bydd unigolyn byddar am gysylltu â’i feddyg teulu i wneud apwyntiad, ni fydd yn gallu gwneud hynny gan nad yw meddygfeydd yn cynnig gwasanaeth tecstio ar gyfer ffonau symudol. (Mae’r mwyafrif o bobl â nam ar eu clyw yn defnyddio ffonau symudol yn hytrach na ffonau testun). Pan fyddant yn cael llythyr oddi wrth y bwrdd iechyd yn gofyn iddynt wneud apwyntiad ag arbenigwr dros y ffôn, ni fyddant yn gallu gwneud hynny gan nad oes cyfleusterau ar gael iddynt. Pan fyddant yn mynd i’r ysbyty ar gyfer apwyntiad, nid oes gwasanaeth dolen sain ar gael a fyddai’n galluogi iddynt glywed ac ateb cwestiynau. Dywedir ei bod yn bosibl trefnu bod cyfieithydd ar gael. Rydym wedi ceisio sicrhau mynediad i’r math hwn o wasanaeth, ond mae ein hymdrechion wedi bod yn ofer. Pan fydd pobl â nam ar eu clyw mewn ysbyty neu feddygfa, ni fyddant yn gallu clywed eu henwau’n cael eu galw, ac nid oes negesfyrddau ar gael i roi gwybod iddynt pan fydd y meddyg yn barod i’w gweld. Ni fydd staff yn siarad â chleifion â nam ar eu clyw oddeutu 99.99% o’r amser. Yn hytrach, byddant yn siarad â’r cyfieithydd. Mae diffyg ymwybyddiaeth am fyddardod yn broblem. Gan mai iaith arwyddion yw iaith gyntaf pobl â nam ar eu clyw, mae Saesneg yn iaith estron iddynt, ac mae’r Saesneg a ddefnyddir gan berson â nam ar ei glyw yn iaith sylfaenol. Byddai rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn helpu’r GIG i fodloni ei thargedau. Er enghraifft, byddai’n cwtogi amseroedd ymgynghoriadau ac yn arwain at ddiagnosau mwy cywir. Byddai’n helpu pobl â nam ar eu clyw gyda’u hannibyniaeth ac yn sicrhau preifatrwydd iddynt pan fyddant yn siarad â doctor neu nyrs. Mae gan fanciau a swyddfeydd post y gwasanaethau hyn, felly pam nad ydynt ar gael yn y GIG?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

68 llofnod

Dangos ar fap

5,000