Deiseb a gwblhawyd ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONTFAEN RHAG EI DYMCHWEL
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn yr hen 'Ysgol Ganolradd i Ferched' y Bontfaen, Bro Morgannwg. Hon oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i gael ei hadeiladu yn benodol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru (a Lloegr), ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i'w ddymchwel. Byddai methu ei gwarchod yn arwain at golli adeilad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol.
Wedi'i hagor ym 1896, ysgol ganolradd merched y Bontfaen oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i ferched gael ei hadeiladu yng Nghymru (a Lloegr) o ganlyniad i Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889, a oedd ynddo'i hun yn foment bwysig yn Hanes Cymru. Ymysg ei gyfoeswyr, roedd ysgol y Bontfaen yn hynod anghyffredin o ran cynnwys llety i rai o'r disgyblion o'r cychwyn ac am gael ei ariannu i raddau helaeth gan ddyngarwr lleol.
Mae cymeriad gwreiddiol yr ysgol wedi goroesi i radd uchel iawn, yn allanol a thŷ mewn, gan gynnwys y neuadd a grisiau gwreiddiol. Dim ond 5 ysgol gymharol (o 95) sydd wedi'u rhestru ledled Cymru. Mae arolwg ohonynt i gyd yn cadarnhau fod ysgol y Bontfaen wedi goroesi i raddau cyfatebol i rai a gwell nag eraill.
Roedd y pensaer, Robert Williams, yn arloeswr ei gyfnod ac yn enwog am fod yn un radical. Roedd yn flaengar wrth annog cadwraeth adeiladau, yn arloeswr cenedlaethol o ran tai cymdeithasol, hybodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru a hyrwyddodd cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Yn ddiweddarach yn ei yrfa aeth i weithio i deulu Davies Bryan yn Llundain ac yna'r Aifft, lle mae llawer o'i adeiladau yn dal i sefyll ac wedi'u gwarchod yn genedlaethol.
Mae cyn 'Ysgol Ganolradd i Ferched y Bontfaen' wedi goroesi fel tystiolaeth amlwg a deniadol o gyfnod pwysig yn hanes Cymru pan ddarparwyd cyfleoedd cyfartal i ferched difreintiedig yr oes. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru, fel ceidwaid ein treftadaeth, i amddiffyn yr adeilad hwn, unai drwy ei restru neu ddarparu cyllid tai cymdeithasol ychwanegol i alluogi ei drawsnewid.
Rhagor o fanylion
Cyfeiriad: Scourfield (2019). FORMER COWBRIDGE COMPREHENSIVE SCHOOL, ABERTHIN ROAD, COWBRIDGE - AN HISTORICAL AND ARCHITECTURAL APPRAISAL.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon