Deiseb a gwblhawyd Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr.
Am y rhesymau a roddir isod, rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr. Mae Costain yn ffafrio opsiwn B a'r bwriad yw iddi gael ei gweithredu ym mis Ebrill 2020.
Ni fydd mynedfa i Fryn-mawr nac allanfa ohoni o'r cwm gorllewinol.
Bydd Opsiwn B yn peri cynnydd dramatig yn y traffig mawr sydd eisoes yn mynd trwy Gendl a Bryn-mawr gan na fydd gan yrwyr sy'n teithio tua'r gorllewin ffordd o ddefnyddio'r A465 o ardaloedd y cwm gorllewinol, e.e. Nant-y-glo, y Blaenau, Abertyleri, Aber-big, Llanhiledd, Blaenafon ac ati.
Bydd goblygiadau i fasnachwyr yn nhrefi Cendl a Bryn-mawr, sydd eisoes yn ei chael yn anodd, gan y bydd traffig sy'n teithio o'r dwyrain yn osgoi'r trefi hyn.
Hefyd, bydd yr effaith amgylcheddol ar y ddwy dref yn annerbyniol oherwydd y cynnydd mewn allyriadau carbon o draffig araf sydd, yn ystod yr oriau brig, yn sefyll yn stond.
Mae cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar y ffordd trwy Gendl; fodd bynnag, ni fydd traffig trwm dros 7.5 tunnell yn gallu cyrraedd A465 heb deithio trwy Gendl a Bryn-mawr.
Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn wynebu gwyriad o hyd at chwe milltir i ddefnyddio'r A465
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon