Deiseb a gwblhawyd ACHUBWCH FEDDYGFEYDD ANGENRHEIDIOL

​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cau meddygfeydd

Troed-y-Bryn ym Mhenyrheol a

Lansbury yng Nghaerffili.

Mae gan y ddwy feddygfa gyfanswm o 3,962 o gleifion cofrestredig rhyngddyn nhw.

Rhagor o fanylion

​Byddai cau'r rhain yn creu sgil-effaith wrth i'r cleifion orfod mynd i feddygfeydd eraill.

Byddai amserau aros hirach am apwyntiadau a/neu fynediad cyfyngedig oherwydd y niferoedd.

Mae gwaith codi tai wedi'i gynllunio ym Mwrdeistref Caerffili, gan gynnwys Caerffili a'r cyffiniau, a bydd hynny'n creu cynnydd yn nifer y cleifion cofrestredig y soniwyd amdanynt. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

69 llofnod

Dangos ar fap

5,000