Deiseb a gwblhawyd Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

​Ledled y byd, mae traean o'r holl fwyd a gynhyrchir yn flynyddol yn cael ei wastraffu. Yn y DU, mae hynny'n cyfateb i oddeutu 9.5 miliwn tunnell, sy'n wastraff enfawr o adnoddau ac yn sefyllfa sy'n rhoi pwysau diangen ar ein hamgylchedd. Er gwaethaf hyn, rhwng 2018 a 2019, bu'n rhaid i elusen Trussell Trust ddosbarthu 1.6 miliwn o barseli i fanciau bwyd ledled y DU, y nifer uchaf erioed. Yn ein barn ni, ni ddylid taflu bwyd i ffwrdd pan mae pobl yn llwgu yn y wlad hon.

Ym mis Chwefror 2016, penderfynodd Ffrainc weithredu mewn perthynas â'r broblem o wastraff bwyd, gan orfodi archfarchnadoedd i roi'r holl fwyd sy'n agosáu at ei ddyddiad 'gwerthu erbyn' i elusennau. Mae'r Ddeddf dan sylw bellach yn atal 46,000 tunnell o fwyd rhag cael ei daflu bob blwyddyn, ac wedi arwain at gynnydd o dros 20 y cant mewn rhoddion i fanciau bwyd yn Ffrainc.

Yn 2019, cafodd y gyfraith hon ei hymestyn i gynnwys y diwydiant arlwyo sefydliadol a'r diwydiant bwyd-amaeth. Credwn y GALLWN WNEUD YR UN PETH yma yng Nghymru, a hynny drwy arbed bwyd bwytadwy ac atal archfarchnadoedd, bwytai cadwyn a chyflenwyr bwyd ein cenedl rhag anfon bwyd da i safleoedd tirlenwi. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio gyda Fare Share Cymru i ailddosbarthu bwydydd sy'n cyfateb i dros 8 miliwn o brydau ers 2011.

Drwy fabwysiadu'r datrysiad a ddefnyddir yn Ffrainc, gallwn gymryd cam llawer mwy sylweddol tuag at roi terfyn ar newyn yng Nghymru, yn ogystal â diwallu nod Llywodraeth Cymru o haneru gwastraff bwyd erbyn 2025. Byddai hynny hefyd yn ein rhoi ar y llwybr i fod yn ddiwastraff erbyn 2050.

Llofnodwch y ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio Deddf yn debyg i'r un yn Ffrainc, a hynny er mwyn cymryd safiad YN ERBYN gwastraff bwyd ac O BLAID y rhai sydd mewn angen.

Rhagor o fanylion

​Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y lincs a ganlyn:

Deddf gwastraff bwyd Ffrainc yn cael eu hymestyn i fusnesau bwyd-amaeth ac arlwyo

https://iegpolicy.agribusinessintelligence.informa.com/PL222646/Frances-food-waste-law-extended-to-agrifood-and-catering-businesses

A yw Deddf Gwastraff Bwyd arloesol Ffrainc yn Gweithio?

https://pulitzercenter.org/reporting/frances-groundbreaking-food-waste-law-working

Cyfraith Ffrainc yn gwahardd gwastraff bwyd gan archfarchnadoedd

https://www.theguardian.com/world/2016/feb/04/french-law-forbids-food-waste-by-supermarkets

Nod Llywodraeth Cymru yw haneru gwastraff bwyd erbyn 2025

https://environmentjournal.online/articles/welsh-government-aims-halve-food-waste-2025/

Trussell Trust - https://www.trusselltrust.org/

Fare Share Cymru - http://www.fareshare.cymru/cy/home/

WRAP Cymru - http://www.wrapcymru.org.uk/

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

84 llofnod

Dangos ar fap

5,000