Deiseb a gwblhawyd Atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl. Mae'r ffyrdd mabwysiedig hyn y mae'r Cyngor Sir yn gyfrifol amdanynt, yn cael eu defnyddio i ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm pan fydd cefnffyrdd ar gau, gan greu risg sylweddol i'r preswylwyr, eu heiddo a'r ffyrdd. 

Rhagor o fanylion

​Mae tystiolaeth gref fod preswylwyr yn dioddef amddifadedd cwsg difrifol oherwydd bod Cerbydau Nwyddau Trwm yn mynd heibio i'w heiddo o fewn troedfeddi. Mae hyn yn creu sŵn a bydd waliau a drysau eu cartrefi'n dirgrynu bob tro y bydd Cerbyd Nwyddau Trwm yn mynd heibio pan gânt eu dargyfeirio dros nos tra bydd cefnffyrdd yn cael eu trwsio. Hefyd, maent yn bygwth saernïaeth eu cartrefi. Mae diffyg cwsg, am gyfnod byr neu am gyfnod hwy, yn effeithio cryn dipyn ar weithgareddau bob dydd ac mae'r cynnydd mewn allyriadau afiach hefyd yn ychwanegu at y peryglon. Gellid osgoi hyn i gyd drwy baratoi cynlluniau a strategaethau ar gyfer systemau gwrthlif.

Ni chafodd y ffyrdd hyn eu hadeiladu ar gyfer traffig trwm ac mae Cynghorau Sir yn brwydro'n barhaus i drwsio'u ffyrdd. Ni chafodd eiddo preswyl hŷn nac eiddo preswyl mwy diweddar, eu hadeiladu i ymdopi â'r holl Gerbydau Nwyddau Trwm sy'n teithio ar ein ffyrdd heddiw.  Mae ffyrdd osgoi wedi'u hadeiladu i osgoi ardaloedd preswyl ac ers hynny, mae traffig o'r math hwn wedi  cynyddu'n sylweddol. Nid yw'n dderbyniol bellach ystyried dargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm ar hyd priffyrdd cyhoeddus sy'n mynd drwy ardaloedd dwys eu poblogaeth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

53 llofnod

Dangos ar fap

5,000