Deiseb a gwblhawyd Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

​Byddai ymwybyddiaeth a gweithredu amgylcheddol fel rhan o'r fframwaith addysgol yng Nghymru yn berthnasol i'r Ddeddf Llesiant ac agenda addysg Cymru.

Nod y ddeiseb yw bod Llywodraeth Cymru yn ystyried bod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig modiwl craidd o'r blynyddoedd cynnar ar yr amgylchedd gan annog ymwybyddiaeth a gweithredu. Gall fod yn fenter hollbwysig sy'n annog pobl ifanc i chwarae rhan yn eu hamgylchedd drwy gael eu haddysgu am yr amgylchedd a rhoi cyfle iddynt fynd ati i'w amddiffyn ar hyd y cwricwlwm ym mhob blwyddyn ysgol.

Rhagor o fanylion

​Mae addysg amgylcheddol yn hanfodol i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn defnyddio'r mesurau sydd eu hangen i warchod ein hamgylchedd. Mae'n hanfodol dod â natur i'r ystafell ddosbarth er mwyn tynnu sylw plant ysgol (a'u rhieni yn anuniongyrchol) at yr angen am newid. Dylai ymwybyddiaeth amgylcheddol a natur fod ar sail gyfartal â dosbarthiadau allweddol ym mhob ysgol yng Nghymru.

Mae'n hanfodol bod plant yn tyfu i fyny â dealltwriaeth dda, addysg am faterion cyfredol sy'n effeithio ar fyd natur a gwybodaeth am ba gamau y gallant eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd amrywiol yr ydym yn byw ynddo. Mae hefyd yn eu dysgu o ddydd i ddydd am barch at natur. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

141 llofnod

Dangos ar fap

5,000