Deiseb a gwblhawyd Adolygiad Asedau ac Eiddo
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i gynnal Adolygiad Asedau ac Eiddo ar eu hadeiladau a / neu eu heiddo unigol i leihau nifer yr eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol ac i ddefnyddio’r cyfalaf a gaiff ei arbed i ariannu Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Gwybodaeth gefnogol
Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol swyddfeydd yn Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, ac mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol ac sy’n rhannol wag. Nid oes cyfiawnhad dros ariannu dau adeilad sydd mor agos at ei gilydd yn yr amseroedd ariannol caled hyn i drethdalwyr yng Nghymru. Gwerthfawrogir bod Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddau sefydliad ar wahân ond nid oes rheswm pam nad oes modd iddynt rannu’r un adeilad. Mae’r un sefyllfa yn wir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd mae’n debyg.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon