Deiseb a gwblhawyd Targedau Ailgylchu ar gyfer Byrddau Iechyd

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i argymell wrth y Gweinidog Iechyd ei bod yn cyflwyno targedau ailgylchu sy’n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar fyrddau iechyd yng Nghymru ar lefel sy’n debyg i’r hyn a osodir ar Awdurdodau Lleol .

Gwybodaeth Gefnogol

Nododd cais Rhyddid Gwybodaeth diweddar fod Ysbyty Maelor yn Wrecsam wedi cael gwared ar 1,200 tunnell o wastraff y llynedd (nad yw’n cynnwys unedau trydanol WWEE). Dim ond 3 y cant o’r gwastraff hwnnw a gafodd ei ailgylchu ac aeth 55 y cant i safleoedd tirlenwi, gan gynnwys yr holl wastraff bwyd. Mae’r diffyg ymrwymiad hwn i ailgylchu’n annerbyniol a chan fod nifer o gyfleusterau ailgylchu lleol ar gael, ni ellir ei esgusodi. Cyfanswm y gost o waredu gwastraff o Ysbyty Maelor yw tua £350,000 bob blwyddyn, a phe byddai hyn yn batrwm cyffredinol drwy Gymru, yna byddai’r gost yn tua £5 miliwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

29 llofnod

Dangos ar fap

5,000