Deiseb a gwblhawyd Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru yn ystod COVID19
Fel mam i blentyn sy’n agored i niwed, hoffwn gael mynediad at slot dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd wrth imi orfod ei chysgodi yn ystod yr argyfwng COVID19.
Rwy’n gwerthfawrogi bod y cynghorau lleol yn dosbarthu parseli bwyd am ddim a bod llawer o bobl yn gweithio’n galed iawn i ddarparu’r rhain. Ni waeth pa mor dda yw’r weithred hon, nid yw’n ddigon i gymryd lle cael cyflenwadau wedi’u dosbarthu gan archfarchnad i’ch cartref. Ar ben hynny, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â llawer o bobl agored i niwed sy’n teimlo’r un fath.
Yn gyntaf, mae’r blwch bwyd am ddim ar gyfer y person sy’n agored i niwed yn unig, ac wrth gwrs mae angen bwyd a phrynu cynhyrchion glanhau ac iechydol arnon ni fel teulu hefyd. O ganlyniad, mae angen imi siopa o hyd, ac ar ôl 21 diwrnod o gysgodi, nid wyf wedi gallu cael dim cyflenwadau wedi’u dosbarthu i’m cartref. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i ni hunan-ynysu fel teulu fel y cawsom gyngor i’w wneud gan ein Nyrs Anadlol.
Rwy’n teimlo ei bod yn annheg iawn fod pobl yn Lloegr yn gallu cofrestru ar gyfer hyn ar wefan GOV.uk a chaiff y neges ei throsglwyddo yn awtomatig i archfarchnadoedd, ond ni all pobl yng Nghymru wneud hynny. Mae pobl Cymru yn hawlio budd-daliadau, yn trethu ein ceir, yn cwblhau hunanasesiadau a llawer mwy ar y wefan hon, felly pam na allwn gael mynediad at y wefan i gael mynediad â blaenoriaeth i siopa.
Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru ar wefan GOV.uk neu sefydlwch system / gwefan debyg ar gyfer Cymru.
Diolch yn fawr!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon