Deiseb a gwblhawyd Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid–19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo ein Llywodraeth i ddiwygio'r Ddeddf Dysgu a Sgiliau ar frys er mwyn caniatáu i gyllid mewn colegau arbenigol gael ei ymestyn o 25 oed i 26 i'r rhai y mae  pandemig Covid19 yn effeithio arnynt ac i ddileu neu ddiwygio ar frys ei dogfen ganllaw, rhif: 221/2017 Tachwedd 2017 fel y caiff argyfwng Covid19 ei ddiffinio fel amgylchiad eithriadol.

Rhagor o fanylion

​Ymhen amser, bydd Deddf ADY 2018 yn newid y gyfraith, ond ni all pobl ifanc ag anghenion cymhleth aros. Mae penderfyniadau ynghylch pa mor hir y gellir eu cefnogi mewn colegau arbenigol yn cael eu gwneud heddiw. Mae ysgolion a cholegau sydd wedi cau neu’n gweithredu mewn ffordd gyfyngedig iawn yn colli amser hollbwysig. O ran y rhai ag anghenion cymhleth, cyfyngir ar eu gallu anhepgor i gael mynediad at adnoddau dysgu. Mae pobl ag anghenion cymhleth yn aml yn dysgu drwy fod allan yn yr amgylchedd i ddatblygu annibyniaeth bywyd a sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Mae’r ystafell ddosbarth y tu allan ond mae hyn bellach yn cael ei gyfyngu i raddau helaeth. Mae Covid19 yn newid y gallu hwn i ddysgu mewn ffordd sylweddol.

Mae llawer o rieni a phobl ifanc yn ofni bod hyn yn un flwyddyn o’r ddwy sy’n agored iddynt. Er bod y canllawiau yn caniatáu ar gyfer amgylchiadau eithriadol, cânt eu dehongli’n ymarferol fel cyfyngiad o ddwy flynedd ar y ddarpariaeth ac nid ydynt yn diffinio’n ddigonol yr hyn a fyddai’n gyfystyr ag amgylchiad eithriadol. Fodd bynnag, dim ond hyd at 25 oed y mae'r gyfraith yn caniatáu cymorth ac mae angen newid hyn ar frys er mwyn rhoi cyfle arall i'r rhai yr effeithir arnynt yn ystod y pandemig hwn. Cyfle am flwyddyn arall â llai o ymyriad.

Bydd hyn, fel arall, yn arwain at golli sgiliau a mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth yn sgil hynny. Nid yw hynny'n ddymunol am gynifer o resymau, yn enwedig y ffaith y byddai colli sgiliau hanfodol yn drychinebus i'r unigolyn dan sylw.

Rydym yn galw ar ein Llywodraeth i helpu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. I'w cefnogi am yr hyn y maent wedi'i golli a rhoi cyfle arall iddynt. Cyfle na ddylid ei golli. I lawer, dyma’r gwahaniaeth rhwng bywyd o ddibyniaeth ac annibyniaeth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

537 llofnod

Dangos ar fap

5,000