Deiseb a gwblhawyd Ymchwiliwch i Reoliadau Drafft y Gronfa Ddata Addysg 2020 – diangen ac yn tanseilio hawliau dynol

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r pwyntiau a ganlyn:

1) Pa dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i defnyddio wrth greu'r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer yr Ymgynghoriad ynghylch y Rheoliadau Drafft (WG 39220) sy’n:

a) awgrymu bod y rheoliadau presennol ar gyfer plant sy’n colli addysg yn methu â nodi nifer sylweddol o blant

b) Sut y bydd cronfa ddata a’r canllawiau drafft blaenorol (2019) yn cyflawni targedau'r Asesiad Effaith Integredig?

2) Pa dystiolaeth sy'n dangos bod plant Addysg Ddewisol yn y Cartref mewn mwy o berygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu o beidio â chyrraedd eu llawn botensial?

3) Eglurhad. A oes nod tymor hwy i fonitro/rheoleiddio cynnwys addysg/cwricwlwm addysgol gyda phrofion rheolaidd ar gyfer plant Addysg Ddewisol yn y Cartref er mwyn cyflawni'r nodau a nodir yn y canllawiau a’r Asesiad Effaith Integredig?

4) Ymchwilio i'r diffyg mesurau diogelu yn y Rheoliadau Drafft i'w hatal rhag cael eu defnyddio fel modd o olrhain teuluoedd?

5) Ymchwilio i lefel yr ymgynghori â Byrddau Iechyd o ran yr effaith y bydd y Rheoliadau Drafft hyn yn ei chael arnynt, a pham nad oes manylion costau nac asesiad effaith ar gyfer y gwasanaeth iechyd wedi eu cynnwys gyda’r ymgynghoriad hwn?

a) Sut fyddai unrhyw gost a baich ar y GIG yn cael eu cyfiawnhau?

6) Ymchwilio i lefel yr ymgynghori â grwpiau lleiafrifol eraill (cymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a theuluoedd plant sy'n mynd i ysgolion annibynnol) er mwyn sicrhau bod eu barn hwy hefyd wedi'i chofnodi?

7) Ymchwilio a yw’r costau a awgrymir yn y Drafft yn realistig ac a ydynt yn ffordd effeithiol ac effeithlon o ddefnyddio arian trethdalwyr o ystyried bod rheoliadau digonol ar waith eisoes i alluogi awdurdodau lleol i nodi plant sy’n colli addysg, gyda mecanweithiau sy’n galluogi awdurdodau lleol i greu Gorchymyn Goruchwylio Addysg neu Orchymyn Mynychu’r Ysgol mewn achosion lle nodir bod plentyn yn colli addysg?

A fyddai cynyddu’r cyllid a chymorth i wasanaethau cymdeithasol yn lle yn fwy effeithiol ac effeithlon?

Rhagor o fanylion

​Targedau Asesu Effaith Penodol:

“helpu i sicrhau bod plant yn datblygu ac yn cyrraedd eu potensial llawn, ac yn lleihau’r posibilrwydd na fyddant mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant”

“cefnogi’r nod o greu Cymru fwy cyfartal, cymdeithas sy’n galluogi plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau a chyflawni eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau”

“Ysgogir y cynigion hyn gan yr angen i gefnogi hawl plant i addysg a sicrhau eu bod nhw, a’u rhieni, yn cael eu grymuso a’u bod yn teimlo’n gyfforddus wrth ddefnyddio gwasanaethau cyffredinol a gwasanaethau wedi’u targedu sydd â’r nod o gefnogi eu llesiant”

“sicrhau bod pob plentyn yn arfer ei hawl i gael addysg yn unol ag Adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 a bod pob plentyn yn cael cyfle i ddatblygu a gwireddu eu huchelgeisiau.”

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

236 llofnod

Dangos ar fap

5,000