Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Ailgyflwyno Cymorth Cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ailgyflwyno cyllid i alluogi Cymorth Cartref Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili i barhau, fel ei fod ar gael i rieni plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Os na chaiff y gwasanaeth hwn ei ailgyflwyno, caiff hyn effaith andwyol ar blant sy’n awtistig, sy’n agored i niwed, drwy gydol eu blynyddoedd ffurfiannol a’u glaslencyndod. Sicrhewch nad yw rhieni plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn wynebu argyfwng.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon