Deiseb a gwblhawyd Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol.’

Geiriad y ddeiseb:

‘Yr ydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol.’

Gwybodaeth ategol:

Mae’r gymuned wedi bod yn defnyddio Gwarchodfa Natur Penrhos (parc arfordir), Caergybi am 40 mlynedd. Mae’n dirlun sy’n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas. Mae’n drysor naturiol. Yr ydym yn credu y dylid cael gafael ar etifeddiaeth barhaus y warchodfa natur annwyl hon a’i rheoli ar gyfer y gymuned. Dylai Cyngor Cefn Gwlad Cymru ei dynodi yn warchodfa natur genedlaethol gyda gweledigaeth hir dymor sy’n cynnwys menter gynhwysfawr i gysylltu’r gymuned gyfan â’i ‘chyfalaf naturiol’: yn cael ei rhedeg gan y bobl ar gyfer y bobl.

Mae Gwarchodfa Natur Penrhos wedi’i hamgylchynu gan arfordir hanesyddol sydd wedi’i ddynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol ger safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac sy’n llunio’i thirIun eiconig. Mae Gorsedd y Penrhyn, uwchlaw llinell llwybr yr arfordir, wedi ei dynodi yn safle daearegol a geomorffaidd pwysig (UK RIGS) gan y Gymdeithas Geocadwraeth. Ynghyd â hyn mae’r cynefinoedd dŵr croyw yn cynnwys cynefinoedd gwelyau cyrs sydd wedi’u blaenoriaethu o dan gynllun gweithredu cynefinoedd y DU (UK hap). Wrth ddynodi’r warchodfa yn barc cenedlaethol byddwn yn gallu gwneud y gorau o fanteision economaidd ‘cyfalaf naturiol’ yr ynys. Harddwch digyffwrdd yr ynys yw sylfaen twristiaeth. Mae’n drysor ysbrydoledig yng nghanol y gymuned a chanddi dapestri cyfoethog o fywyd sy’n cael ei werthfawrogi gan y gymuned gyfan. Yn ôl y sôn, mae’n ‘baradwys ddiwinyddol’ ac yn rhan o allorlun Ynys Gybi. Yn wir, mae’r 100,000 o ymwelwyr sy’n dod yno bob blwyddyn yn cydnabod hyn. Fel dywedodd y bardd R S Thomas:

‘We are a people bred on legends’ a

‘Clinging stubbornly to the proud trees of blood and birth.’

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

826 llofnod

Dangos ar fap

5,000