Deiseb a gwblhawyd Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach.
Gwybodaeth ategol: Gall Gweithgarwch Corfforol fod yn gyfrwng i wella a chynnal nid yn unig priodoleddau corfforol unigolion ond hefyd eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol. Rwy’n credu bod angen i Golegau Addysg Bellach osod amcanion a thargedau clir i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ystod eu hamser hamdden drwy greu rhaglen strwythuredig, gynhwysol a difyr sy’n uno ac yn cynnwys y myfyrwyr ac sy’n addasu i’w hanghenion. Drwy wella iechyd cyffredinol myfyrwyr, gellir gwella nid yn unig perfformiad y coleg, ond perfformiad Cymru gyfan. Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, iechyd a lles, ond hefyd i gymryd camau pendant i gyfrannu at raglenni a fydd yn ysbrydoli’n myfyrwyr i fyw’n iachach ac i gymryd rhan yn amlach mewn gweithgarwch corfforol.
Rwy’n credu bod bwlch eang a gwendid amlwg yn y modd y caiff gweithgarwch corfforol ac iechyd ei hyrwyddo mewn colegau Addysg Bellach. Mae angen strategaeth a chanllawiau clir i golegau eu dilyn. Mae gennym ddyletswydd i geisio hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd ymhlith ein myfyrwyr er mwyn gwella iechyd cyffredinol ein cenedl.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon