Deiseb a gwblhawyd Parhau Tocynnau Teithio Rhad ar Gludiant Cymunedol

Gofynnwn i Lywodraeth Cymrun ystyried argymhellion y gwerthusiad o Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol (CTCFI) a gomisiynwyd yn allanol, a bod y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys cynlluniau trafnidiaeth gymunedol trwy Gymru ar sail prisiau tocynnau ar wahân, er mwyn sicrhau cydraddoldeb i’n dinasyddion mwyaf agored i niwed – pobl hŷn a phobl anabl na all ddefnyddio eu cardiau bws ar drafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol.

Gwybodaeth ychwanegol : Bydd Menter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol wedi gwneud oddeutu 1.3 miliwn siwrnai hanfodol erbyn mis Mawrth 2012, yn cludo pobl oedrannus a phobl anabl at wasanaethau na fyddent wedi llwyddo i’w cyrraedd fel arall. Dengys y dystiolaeth effaith lesol y cynllun, a sefydlwyd i sicrhau cydraddoldeb mynediad, ar fywydau defnyddwyr y gwasanaeth. Gan fod poblogaeth Cymru’n heneiddio, a chyfraddau anabledd ychydig yn uwch, cynyddu fydd yr angen am y gwasanaeth hwn, ac mae bron 18,000 o ddefnyddwyr eisoes wedi cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae angen tua £3.9 miliwn yn y flwyddyn 2012-13 i sicrhau bod Menter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol yn rhan o gynllun tocynnau teithio rhatach Cymru gyfan ar sail prisiau tocynnau ar wahân. Byddai hyn yn cynnwys arian pontio i rai o’r 15 cynllun gwreiddiol a all fod yn wynebu eu cau ar ddiwedd mis Mawrth. Gallai hyn arwain at golli swyddi a cholli ymrwymiad gwerthfawr gan wirfoddolwyr. Ni fydd torri’r Fenter Tocynnau Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol yn datrys y mater o gydraddoldeb, er ei bod yn ddyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i’w hyrwyddo, a byddai’r cam hwn yn effeithio’n andwyol ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

4,900 llofnod

Dangos ar fap

5,000