Deiseb a gwblhawyd Pob ci fod o dan reolaeth tennyn mewn mannau cyhoeddus

O ganlyniad i’r nifer cynyddol o berchnogion anghyfrifol sy’n caniatáu i’w cŵn fynd yn agos at aelodau’r cyhoedd, eu dychryn hwy, eu plant a’u hanifeiliaid anwes a’u peryglu hefyd tra nad yw’r cŵn hynny ar dennyn mewn mannau cyhoeddus, cynigiaf y dylai fod yn gyfreithiol ofynnol i bob ci fod o dan reolaeth tennyn mewn mannau cyhoeddus neu fannau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, eu hanifeiliaid sydd ar dennyn a’u plant.

Gwybodaeth ychwanegol: Nid oes ond angen i chi ddarllen am bobl yn dioddef ymosodiadau gan gŵn i deimlo sut y dylai’r gyfraith newid er mwyn adlewyrchu’r modd mae perchnogion anghyfrifol sy’n poeni dim am bobl eraill, na phlant nac anifeiliaid anwes yn amharu ar fwynhad pobl a dinistrio bywydau. Efallai iddynt gredu bod eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel, tan fod eu ci Dalmataidd neu beth bynnag, yn neidio ar blentyn, ei wthio i’r llawr ac achosi niwed i’w benglog neu ymennydd o ganlyniad i’r gwymp, hyd yn oed os nad yw’r ci wedi cnoi. Helpwch i ddiogelu plant a phobl. Mae cŵn sy’n rhedeg yn rhydd hefyd yn cael eu hanafu, eu bwrw i’r llawr neu’n dioddef ymosodiad gan dadau sy’n pryderu. Berchnogion anifeiliaid anwes, arwyddwch fy neiseb, mae’n rhaid mai dyma’r peth iawn i’w wneud.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

17 llofnod

Dangos ar fap

5,000