Deiseb a gwblhawyd Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddyd i Lywodraeth Cymru i brynu Plas Cwrt yn Dre, a elwir hefyd yn Hen Senedd-dy Owain Glyndŵr, Dolgellau, cyn bo’r trysor cenedlaethol hwn yn cael ei werthu ar y farchnad agored a’i golli am byth.

Gwybodaeth ategol: Symudwyd Plas Cwrt yn Dre, a elwir hefyd yn Hen Senedd-dy Owain Glyndŵr, o Ddolgellau i Barc Dolerw, y Drenewydd ym 1886. Bellach ni all y Crynwyr, perchnogion yr adeilad ar hyn o bryd, fforddio i’w gynnal a’i gadw ac mae ar werth ganddynt am £55,000. Mae hwn, heb os, yn drysor cenedlaethol a chredwn y dylai Llywodraeth Cymru ei brynu ar gyfer y genedl .

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

218 llofnod

Dangos ar fap

5,000