Deiseb a gwblhawyd Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, i derfynu’r Llwybr Arfordirol arfaethedig o gwmpas Cymru, yng Nghaerdydd. Credwn y byddai gosod y llwybr rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt yn achosi aflonyddu gormodol a dinistriol ar y miloedd o adar gwyllt ar yr arfordir, sy’n hedfan i ffwrdd ar ddim (goddefgarwch o bobl, y Gylfinir: tua 400 llath, Pibydd y Mawn a’r Pibydd Coesgoch: tua 200 i 300 llath yn unig). Mae’r adar hyn yn dibynnu ar y llain tir cul a’r morfa heli hwn ger eu parth bwydo, i orffwys ac fel noddfa ddiogel.

Dynodwyd y lle fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig at ddibenion cadwraeth, ac mae’n rhan o Gynllun Rhyngwladol ‘Pwysig i Adar’, Aber Afon Hafren. Bu’r safle hwn yn lloches am filoedd o flynyddoedd yn sicr, a chaiff ei fygwth yn aml.

Er bod nifer o ddewisiadau eraill ar gael i gerdded, nid oes dewis arall ar gael i’r cynefin arfordirol hwn.

Rhagor o fanylion

Gwybodaeth Atodol: Pan fyddant yn cael eu cynhyrfu, mae’n rhaid i’r adar hedfan i fan arall lle mae pobl yn ddigon pell oddi wrthynt. Mae hynny’n defnyddio egni gwerthfawr ac yn amharu ar eu patrymau gorffwys. Os byddant yn cael eu cynhyrfu’n aml, fe allai arwain at heidiau o adar yn gadael yr ardal yn barhaol er mwyn chwilio am lefydd eraill i fwydo, sydd eisoes o dan bwysau yn y byd modern. Byddai hynny’n amddifadu aelodau cymdeithasau gwylio adar Morgannwg, Gwent a’r RSPB a phobl eraill o’r ased lleol gwerthfawr hwn, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

5,000