Deiseb a gwblhawyd Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog
Mae’n bosibl na fydd staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed, sydd angen cael eu diogelu neu sydd wedi bod yn feichiog am gyfnod o dros 28 wythnos yn elwa ar yr un cymorth ariannol na’r un mesurau diogelu ag a ddarperir gan fyrddau iechyd i staff amser llawn y GIG. Mae rhai o staff cronfa GIG Cymru, fel cynorthwywyr iechyd, nyrsys a bydwragedd ac eraill, wedi bod yn gweithio yn y GIG ers blynyddoedd, a dyma yw prif ffynhonnell eu hincwm. Mae’n bosibl y bydd staff cronfa sy’n agored i niwed neu’n feichiog yn wynebu dewis rhwng gweithio neu beidio ag ennill cyflog, a hynny ar yr amod bod gwaith amgen yn cael ei gynnig iddynt beth bynnag.
Os gwelwch yn dda, cefnogwch staff cronfa’r GIG.
Rhagor o fanylion
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod pobl agored i niwed rhag gwahaniaethu (o dan y pennawd anabledd), yn ogystal â phobl sy’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth.
O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, yn ogystal â Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, mae’n rhaid cynnal asesiadau risg mewn perthynas â staff cronfa’r GIG mewn perthynas ag argyfwng Covid-19. Mewn sefyllfaoedd lle nad oes modd i’r staff cronfa dan sylw weithio, neu lle na ellir cynnig gwaith arall iddynt, mae’n bosibl y bydd y staff hynny yn cael eu gadael heb incwm.
Yn y cyfnod digynsail hwn, dylai Senedd Cymru, GIG Cymru a’r byrddau iechyd perthnasol ymestyn cymorth ariannol a mesurau diogelu i staff cronfa’r GIG. Ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd staff cronfa’r GIG yng Nghymru yn wynebu dewis rhwng gweithio neu aros gartref heb gymorth ariannol.
https://www.rcn.org.uk/get-help/rcn-advice/bank-workers
https://www.rcm.org.uk/media/3896/2020-04-21-occupational-health-advice-for-employers-and-pregnant-women.pdf
https://www.bristolpost.co.uk/news/bristol-news/nhs-southmead-hospital-furlough-coronavirus-4082655
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon