Deiseb a gwblhawyd Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19.

Mae’r Argyfwng Corona presennol wedi tynnu sylw at ba mor annigonol yw’r mynediad at gyfarpar diogelu personol angenrheidiol i bawb sydd ei angen, a hynny ym mha bynnag leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol y maent yn gweithio. Fel cenedl mae angen i ni ddod yn hunangynhaliol a pheidio â gorfod dibynnu ar gwmnïau tramor ac ati. Byddai hyn hefyd yn gofyn am arfarniad o ran storio, ailgyflenwi a dosbarthu’r eitemau dan sylw, ac yn darparu cyflogaeth i lawer o bobl.
Fel Mam i nyrs mewn Uned Gofal Dwys, rwy’n byw mewn ofn bob dydd am ei diogelwch. Ac nid fi yw’r unig riant sy’n poeni.

Rhagor o fanylion

Mae sesiynau briffio newyddion dyddiol wedi tynnu sylw at ddiffyg trallodus o gyfarpar diogelu personol i’n gweithwyr hanfodol ym mhob lleoliad, ac mae hyn yn achosi straen gormodol, ac mewn rhai achosion mae’n arwain at haint anochel a lledaeniad y feirws. Mae cael rhwystr corfforol rhwng y rhai sydd â’r feirws a’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn bwysig, ac mae’n diogelu gweithwyr rheng flaen. Mae’n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod hyn yn bosibl. Byddai cynhyrchu cyfarpar diogelu personol yng Nghymru at ddefnydd pawb y mae’n ofynnol iddynt eu cael, beth bynnag yw lefel yr angen, yn gwarantu argaeledd, yn lleihau’r ôl troed carbon (dim hediadau mewnforio ac ati) ac yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch mawr ei angen i’r cyhoedd. Yn ogystal, byddai’n arwain at fod llawer o bobl yn dod o hyd i gyflogaeth newydd, fel peirianwyr, gweithwyr warws, staff rheoli ansawdd a gweithwyr ym maes logisteg, i enwi dim ond ychydig.
Mae llawer o bobl wedi ymateb i’r her ar hyn o bryd, ac maen nhw’n defnyddio’u sgiliau gwnïo yn dda. Er mor gymeradwy yw hyn, byddai gymaint yn well pe na baent wedi gorfod gwneud hynny.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

127 llofnod

Dangos ar fap

5,000