Deiseb a gwblhawyd Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisïau ar ryddhad ardrethi annomestig sy’n wahanol i Loegr ar gyfer y sector manwerthu, ac eithrio yn achos y gyfran fach o eiddo sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000. Gyda siopau Debenhams eisoes mewn trafferthion ariannol mae hyn yn bygwth hyfywedd eu holl siopau yng Nghymru a dyfodol hyd at 900 o staff. Os bydd y siopau hyn yn cau, bydd yn cael effaith drychinebus ar ganolfannau siopa lle maent wedi'u lleoli, gan leihau nifer y bobl sy’n ymweld â siopau eraill.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,790 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 8 Gorffennaf 2020

Gwyliwch y ddeiseb ‘Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf 2020