Deiseb a wrthodwyd Explain why the Senedd found it necessary to Re-brand AGAIN!

I find it obscene that the Senedd wasted money on this re-branding especially in this current climate!

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Allwn ni ddim cyhoeddi deisebau sy’n gofyn am rywbeth sy’n digwydd yn barod neu rywbeth sydd wedi’i gyhoeddi ers i chi ddechrau eich deiseb. Rydym ni’n credu bod y Llywodraeth neu’r Senedd eisoes yn gweithredu ar yr hyn sydd yn eich deiseb chi. Os ydych chi eisiau rhywbeth arall, gallech chi ddechrau deiseb newydd sy’n nodi’n glir beth yw hynny.

Yn dilyn deddfwriaeth a basiwyd yn gynharach eleni, ar 6 Mai 2020, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi newid yn swyddogol i Senedd Cymru a Welsh Parliament, er mi fydd yn cael ei galw gan amlaf yn Senedd.

Mae’r enw newydd yn adlewyrchu statws llawn y sefydliad fel senedd genedlaethol, gyda phwerau deddfu a’r gallu i amrywio trethi.

Mae’r enw newydd, a’r dyddiad pan ddaeth y newid i rym, yn gyfraith yn ôl Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru). Mae diwrnod y newid un flwyddyn yn union cyn dyddiad arfaethedig Etholiadau’r Senedd yn 2021.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://senedd.wales/cy/newhome/pages/newsitem.aspx?itemid=2097

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi