Deiseb a wrthodwyd Stop England shipping released child sex offenders to Wales.

I propose a blanket ban on English, Irish or Scottish, convicted child sex offender's being able to move to Wales, either in protective custody or their own volition. Another convicted English paedophile was arrested in neath 11/5/2020 for re-offending.

We need to stop importing them.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Mae materion sy’n ymwneud â chyfiawnder, gan gynnwys dedfrydau gan lysoedd, gorfodi gorchmynion llys, ac agweddau ar blismona sy’n ymwneud â dalfa warchodol, wedi’u cadw yn ôl i Senedd y DU. O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma: https://senedd.cymru/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi