Deiseb a gwblhawyd Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.

Rydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gael i alluogi pobl o Gymru sydd wedi colli rhan o’u corff i gael technoleg brosthetig sydd o leiaf cystal â'r hyn sydd ar gael yng ngwasanaethau iechyd gwladol Lloegr a'r Alban. Gofynnwn am i'r un lefel o gefnogaeth fod ar gael i bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae GIG yr Alban wedi darparu aelodau prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd ers sawl blwyddyn, ac mae GIG Lloegr wedi eu darparu er 2016. Mae polisi Cymru i fod i gael ei adolygu er 2017.

Rhagor o fanylion

Hanes y Deisebydd
Fel person ffit yn tynnu am fy 60 oed, un prynhawn Gwener ym mis Mawrth 2018, pan oeddwn yn y gwaith, fe gefais i anewrysm yn fy nghoes dde. Dros yr wyth diwrnod nesaf, cefais dair llawdriniaeth fawr wrth i dîm proffesiynol iawn geisio achub fy nghoes, ei hachub o dan y pen-glin, ac yna ei hachub uwchben y pen-glin. Llwyddodd y llawdriniaeth ddiwethaf a thorrwyd fy nghoes i ffwrdd ychydig uwchben y pen-glin.
Cefais fy nghyflwyno i’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn Ysbyty Rookwood, ac yno y cychwynnodd fy nhaith yn ôl i'r gwaith. Fe wnaethant ddylunio a gosod aelod prosthetig, a thrwy ffisiotherapi rheolaidd, roeddwn yn cerdded, ac yn ôl yn y gwaith erbyn diwedd yr haf. Diolch yn fawr, gwasanaeth gwych.
Am sawl blwyddyn mae anghysondeb sylweddol wedi bod o ran y math o brostheteg sydd ar gael i bobl anabl Cymru.
Gan y bydd yn rhaid i mi dreulio gweddill fy oes yn defnyddio coes brosthetig, hoffwn gael yr un cyfle â thrigolion gweddill y DU, a hoffwn i bob person arall yng Nghymru sydd wedi colli aelod o’u corff gael y cyfle hwnnw hefyd.
Peidiwch â gwahaniaethu. Rhowch yr un safon i drigolion anabl Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

561 llofnod

Dangos ar fap

5,000