Deiseb a gwblhawyd Gofynnwch i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i sŵau ac acwaria.

O ganlyniad i incwm a gollwyd oherwydd cau sŵau ac acwaria ar frys yn sgil Covid-19, mae Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn ac eraill yn wynebu argyfwng cyllid. Mae’r Senedd wedi penderfynu peidio â rhoi cyllid brys i’w cefnogi. Oherwydd hyn, mae’r gwaith cadwraeth a’r cyfleoedd addysgol yn y fantol a gall yr ardal golli incwm twristiaeth. Rydym yn gofyn i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad a rhoi’r cymorth hollbwysig hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

6,299 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch y ddeiseb. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r cymorth blaenorol a’r cymorth parhaus a roddir i sŵau ac acwaria, ac wedi cadarnhau bod y cymorth hwn yn cael ei adolygu’n barhaus, penderfynodd Pwyllgor na ddylid cyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl.