Deiseb a wrthodwyd Addysgu disgyblion am ymateb ymladd/ffoi/rhewi y corff mewn ysgolion.

Rwyf wedi bod yn gwnselydd ac yn weithiwr cymorth ers dros ddegawd ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw naill ai wedi dioddef o byliau o banig, wedi cael trawma, neu wedi wynebu digwyddiadau eraill sydd wedi ei gwneud yn anodd iddynt ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd.
Rwy'n teimlo pe byddem wedi cael ein haddysgu sut mae ein corff yn ymateb i'r digwyddiadau hyn yn ifanc (yn amlwg mewn modd sy’n briodol i’r oedran) byddai'n helpu'r unigolyn i hunanreoleiddio ac yn normaleiddio'r profiad.

Rhagor o fanylion

Dangoswyd bod y system nerfol yn chwarae rhan yn y broses o reoleiddio ein corff; o emosiynau i dreulio bwyd; h.y. trwy waith yr Athro Stephen Porge, Deb Dana, Dr David Muss, Bessel van der Kolk M.D.

Mae llawer o unigolion, gan gynnwys fi fy hun, wedi cael profiadau lle rydyn ni wedi cael ein dadreoleiddio ac wedi cael profiadau o bryder, pyliau o banig neu drawma. Gan fy mod yn fam ac yn gwnselydd, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r effaith fawr y gall hyn ei chael ar ein plant, neu mae ein cleientiaid wedi profi'r pethau hyn ers roeddent yn ifanc.

Hoffwn awgrymu y dylai dealltwriaeth sylfaenol o'r system nerfol ac ymatebion y corff gael ei haddysgu mewn ysgolion i helpu plant i ddeall yr hyn sy'n digwydd yn eu cyrff ac yn eu bywydau. Mae defnyddio'r enghraifft 'ymennydd llaw' yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o pam y gall plentyn 'wylltio’n lân'.

Drwy ymwybyddiaeth, byddai'n helpu unigolion i ddeall yr ymatebion corfforol hyn; sydd yno yn y pen draw i greu diogelwch, a symud tuag at lesiant.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi