Deiseb a wrthodwyd Dechrau blwyddyn ysgol 2019 eto. Mae polisi presenoldeb yn yr ysgol yn awgrymu nad oes opsiwn arall.
Dechrau blwyddyn ysgol 2019 eto. Ni allwch ddatgan bod presenoldeb 100% yn fuddiol i addysg plant, ac yna derbyn y gallant fethu 5 mis yn yr ysgol a gwneud dim am y peth. At hynny, ni fyddai angen i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol tan fis Medi ac felly yn y tymor byr gallem ganolbwyntio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Byddai hyn hefyd yn caniatáu i'r athrawon sy'n gweithio gymryd hoe a bod yn ddiogel, gan ganolbwyntio ar eu plant eu hunain.
Rhagor o fanylion
Mae polisi presenoldeb yn yr ysgol/awdurdod addysg lleol yn dirwyo rhieni am fynd â phlant allan o'r ysgol. Mae gadael i blant fethu 5 mis o ysgol yn dangos diystyrwch amlwg o'u haddysg a'u hiechyd meddwl, ac mae hefyd yn gwneud y polisi hwn a'r broses/bobl sy'n ei orfodi yn gyff gwawd. Nid oes dewis arall synhwyrol. Mae fy merch ym mlwyddyn 6 ac i fod i bontio i'r ysgol uwchradd ym mis Medi. Mae hi'n berson mewnblyg swil ac os y bydd yn rhaid iddi fynd i ysgol newydd y tro nesaf y bydd hi’n mynd i’r ysgol bydd hyn yn ergyd fawr iddi. Ni allaf weld sut y bydd y mwyafrif helaeth o blant yn gallu dal i fyny. Bydd y llywodraeth hon yn gyfrifol am ddifetha addysg llawer o blant. Felly gofynnaf i chi ail-ddechrau'r flwyddyn ysgol hon i roi dyfodol i'n plant.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi