Deiseb a gwblhawyd Dylid llacio’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru

Ar 29 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan y rheoliadau COVID-19. Cafodd y rheolau eu llacio ond mae gofyniad i bobl aros yn lleol o hyd. Mae’r rheolau hyn yn atal teuluoedd sy’n byw yn bell o’i gilydd rhag cwrdd ac yn atal y rhan fwyaf o bobl rhag ymarfer corff ar lan y môr neu yng nghefn gwlad. Nid oes dim rheswm pam na all pobl gadw pellter cymdeithasol yn haws yn yr awyr agored. Mae’r cyfyngiadau wedi’u llacio eisoes yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

15,193 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Oherwydd bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, roedd y cyfyngiadau teithio Covid-19 y cyfeiriwyd atynt yn y ddeiseb wedi cael eu llacio y diwrnod cyn i'r Pwyllgor allu ystyried y ddeiseb.