Deiseb a gwblhawyd Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.

Mae Prydain - gan gynnwys Cymru - wedi elwa o wladychiaeth a chaethwasiaeth am ganrifoedd. Mae angen i hyn gael ei gynrychioli yn y cwricwlwm.

Yn aml iawn, mae'r Ymerodraeth Brydeinig yn cael ei mawrygu, ac effaith fyd-eang gwladychiaeth Prydain yn cael ei thanbrisio. Adlewyrchwyd hyn yn y cynnwys a addysgir.

Mae angen newid gwirioneddol a sylweddol. Mae gwaddol caethwasiaeth a gwladychiaeth yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Prydain heddiw, ac mae angen i system addysg Cymru gydnabod hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

34,736 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 4 Tachwedd 2020

Gwyliwch y ddeiseb ‘Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. ’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Tachwedd 2020