Deiseb a wrthodwyd Atal cynlluniau i ailagor ysgolion yn llawn nes bod bygythiad covid-19 wedi lleihau’n wirioneddol

Ar 3 Mehefin, cyhoeddodd Kirsty Williams y byddai holl ysgolion Cymru yn ailagor ar 29 Mehefin ar gyfer yr holl grwpiau blwyddyn. Er y byddai mesurau ar waith i gadw pellter rhwng myfyrwyr, nid yw hynny’n debygol o fod yn ddigon.

Rhagor o fanylion

Mae ysgolion yn amgylchedd perffaith ar gyfer lledaenu clefydau feirws fel covid-19. Pe bai ysgolion yn ailagor, gallai arwain at naid enfawr yn nifer yr achosion o’r coronafeirws, a allai lethu’r GIG.

Dywedodd Neil Butler, o Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, nad oedd y rhesymau yn rhai digon da.

Nododd fod Llywodraeth Cymru yn deall yn iawn pa mor anodd yw cadw pellter cymdeithasol mewn ysgolion, yn enwedig ymhlith plant iau.

Ychwanegodd fod y gweinidog wedi cyfaddef mai unig ddiben y penderfyniad oedd rhoi cyfle i’r plant ‘ddod i’r ysgol’ a dal i fyny â ffrindiau, a’i fod yn amlwg felly nad oes unrhyw ddiben addysgol y tu ôl iddo.

Dywedodd nad oedd rhain yn rhesymau digon da dros beryglu bywydau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 9 Gorffennaf 2020 y bydd pob ysgol yng Nghymru yn ailagor ym mis Medi, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi