Deiseb a gwblhawyd Caniatáu priodasau sy’n cynnwys 5 o bobl (cofrestrydd/y pâr/2 dyst) yn ystod COVID 19 yng Nghymru

Er bod partïon priodas, yn ddealladwy, yn cael eu gohirio am resymau cadw pellter cymdeithasol, mae gallu priodi’n gyfreithlon yn bwysig i lawer o bobl, ac yn bosibl heb risg sylweddol o ledaenu COVID-19.

Mae priodas yn darparu hawliau cyfreithiol o ran etifeddiaeth, plant, penderfyniadau meddygol perthnasau agosaf, a thai. Hefyd, oherwydd argyhoeddiadau ysbrydol a moesol ynghylch cyd-fyw cyn priodi, mae llawer o gyplau sydd wedi dyweddïo yn cael eu gorfodi i fyw ar wahân wrth i ddyddiad eu priodas basio heibio.

Rhagor o fanylion

Byddai rhoi’r cyfle i gyplau roi’r hawliau hyn i’r naill a’r llall yn eu helpu yn ystod yr amser hwn sy’n llawn straen.

Mae Newyddion y BBC wedi bod yn adrodd am gynlluniau o ran caniatáu "priodasau bach yn yr awyr agored" yng Ngogledd Iwerddon o 8 Mehefin, 2020 ymlaen.

https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-5280997

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

979 llofnod

Dangos ar fap

5,000