Deiseb a gwblhawyd Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (BLM) wedi tynnu sylw at rai enghreifftiau caswir yn hanes Cymru y mae llawer iawn ohonom heb eu dysgu erioed.
Mae hyn oherwydd y ffaith bod yr Ymerodraeth, yn draddodiadol, yn cael ei hanwybyddu yng Nghymru i raddau helaeth, a hynny am ein bod yn dewis canolbwyntio ar yr elfennau trefedigaethol a wynebwyd gennym ni. Nid yw hyn yn golygu bod gan Gymru lechen lân lle mae camweddau yn y cwestiwn.
Byddai amgueddfa bwrpasol newydd o dan ofal Amgueddfa Cymru yn ffordd briodol o ysgogi'r sgyrsiau anodd hyn ac o addysgu cenedlaethau'r dyfodol.

Rhagor o fanylion

Wrth inni ddechrau trafod yr hyn a ddylai ddigwydd i greiriau ein gorffennol trefedigaethol, fel cerflun Thomas Picton yn Neuadd Dinas Caerdydd, mae llawer iawn o bobl yn dweud y dylid eu cadw "i addysgu", ond y broblem yw dyna'r union beth nad ydyn nhw wedi ei wneud.

Byddai cyfleuster o’r math yn fodd o ddangos darlun llawn y ffigyrau hanesyddol â staen ar eu henwau ac yn fodd o egluro'r erchyllterau a gyflawnwyd ganddynt a’r ffordd y gwnaethant les i Gymru drwy ddulliau ffiaidd.

Byddai'n sefyllfa lle byddai pawb ar ei ennill, byddai gennym ffordd o ddysgu ein cenedl yn iawn y caswir am hanes Cymru, a byddem hefyd yn gallu gwneud lle yn ein byd cyhoeddus i bobl BAME sy'n llawer mwy teilwng o barch Cymru, megis Betty Campbell, pennaeth du cyntaf Cymru. Yn wahanol i Thomas Picton, mae rhywun fel hi yn haeddu ei lle yng nghwmni Dewi Sant ac Owain Glyndŵr. Yn wahanol i Thomas Picton, mae rhywun fel hi yn haeddu ei lle yng nghwmni Dewi Sant ac Owain Glyndŵr.
Yng ngoleuni'r pandemig, byddai gwneud hyn hefyd yn ffordd o ysgogi'r economi gan greu mwy o swyddi a chyrchfan newydd i dwristiaid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

103 llofnod

Dangos ar fap

10,000