Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb.

Mae angen addysgu plant sut i fod yn wrth-hiliol. Er y bydd cyflwyno hanes pobl dduon a pobl groenliw i’r cwricwlwm yn fuddiol dros ben, mae angen i blant gael sgyrsiau uniongyrchol am hiliaeth a sut i fod yn wrth-hiliol. Bydd hyn yn lleihau’r achosion o fwlio mewn ysgolion ac yn caniatáu i blant dyfu i fyny mewn amgylchedd amlddiwylliannol, waeth p’un a ydynt wedi’u hamgylchynu gan ddiwylliannau eraill ai peidio. Fel hyn, bydd plant yn deall diwylliannau eraill ac yn gorchfygu stereoteipio a gwahaniaethu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

4,053 llofnod

Dangos ar fap

10,000