Deiseb a wrthodwyd make it compulsory for all children to wear safety helmets whilst on their bicycle.

it's inevitable that this will save lives and a lot heartache.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.
Er mwyn gorfodi gofyniad i bobl wisgo helmedau beicio, byddai’n rhaid gwneud peidio â gwisgo helmed yn drosedd traffig ffyrdd, sy’n faes nas datganolwyd i’r Senedd nac i Lywodraeth Cymru.
Mae’n bosibl y byddwch am gyflwyno deiseb i Senedd y DU, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y linc a ganlyn: https://petition.parliament.uk/

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.wales/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi