Deiseb a gwblhawyd Cadw’r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru.

Ar 29 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn y cyfyngiadau a osodwyd gan reoliadau Covid 19. Cafodd y rheolau eu llacio ond mae'n dal i fod yn ofynnol i bobl aros yn lleol ac o fewn radiws o 5 milltir. Diben y rheolau hyn yw cadw cymunedau a theuluoedd yn ddiogel. Y rheswm pam mae’r rheolau pellter cymdeithasol yma i aros yw bod gennym i gyd un ddyletswydd. Atal y lledaeniad. Mae’r cyfyngiadau eisoes wedi cael eu llacio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ond credaf y bydd hyn yn achosi i ail a thrydydd ton ddechrau yno.

Rhagor o fanylion

Mae rhai pobl yn galw am ryddid llwyr i deithio yng Nghymru. Rwy'n cydymdeimlo â hwy a gwn y gall unigedd fod yn anodd ar adegau, ond mae wedi bod yr un fath i filiynau o bobl ledled y byd. Mae gennym i gyd un ddyletswydd. Mae angen inni gadw'r ffigurau i lawr ac atal y lledaeniad. Peidiwch ag ymlacio. Teithio lleol yn unig yng Nghymru.

Cadwch bobl Cymru, ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel.
Diolch

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

114 llofnod

Dangos ar fap

5,000