Deiseb a gwblhawyd Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol

Mae posibilrwydd cryf y bydd yn rhaid parhau i gadw pellter cymdeithasol ar ôl mis Medi pan fydd y flwyddyn ysgol newydd yn dechrau. Ni fydd digon o le yn yr ysgolion i’r holl ddisgyblion ddychwelyd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol ac undebau athrawon i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt i wneud cynnydd addysgol. At y diben hwn, bydd angen cyfuniad o wersi yn yr ysgol a gwersi gartref a gaiff eu cyflwyno drwy ddosbarthiadau rhithwir.

Rhagor o fanylion

Os bydd angen parhau i gadw pellter cymdeithasol ar ôl mis Medi, mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau datblygu strategaeth genedlaethol i addysgu ein plant ac i gynorthwyo’r plant hynny sy’n dilyn y mesurau gwarchod. Mae’n debygol mai dim ond traean o’r plant fydd yn gallu bod yn yr ysgol ar unrhyw un adeg, felly bydd angen cyfuniad o wersi i’w cyflwyno yn yr ysgol a gwersi rhithwir ar-lein i’w cyflwyno drwy Systemau Rheoli Dysgu shorturl.at/boB24
Bydd angen cynorthwyo athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol, a darparu cyllid i dalu am y gost o sefydlu platfformau dysgu, ymdrin â materion diogelu a hefyd i gyflwyno gwersi ar-lein a fydd yn galw am set sgiliau gwahanol i’r arfer. Ni all Llywodraeth Cymru ddiystyru’r broblem hon. Mae gwledydd fel Singapôr a Tsieina yn croesawu’r technolegau hyn oherwydd cyfyngiadau Covid ar ysgolion. Mae angen i Gymru fod ar flaen y gad yn y cyswllt hwn ac arwain y ffordd i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,772 llofnod

Dangos ar fap

5,000