Deiseb a gwblhawyd Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr.

Ar 23 Mawrth, caewyd gwasanaethau deintyddol cyffredinol ar gyfer popeth heblaw am gyngor, gwrthfiotigau, poenladdwyr ac echdyniadau syml.
Ar 8 Mehefin 2020, caniatawyd i bractisau yn Lloegr ailagor ac roedd lefel y gwasanaeth yn seiliedig ar eu gallu i gydymffurfio â phrotocolau gweithredu diogel.

Rhagor o fanylion

Gwrthodir y cyfle hwn i gleifion a deintyddion yng Nghymru ac amcangyfrifir y bydd y gwasanaeth "arferol" yn ailddechrau ym mis Ionawr 2021.
Gwrthodir y cyfle i gleifion gael mynediad at driniaeth briodol yng Nghymru. Gwahaniaethu yw hyn ac mae’n rhaid iddo ddod i ben.
Bydd practisau mor ddiogel â phosibl. Hefyd, mae pwysau ariannol anferth arnynt a all olygu y bydd yn rhaid i lawer ohonynt gau.

Bydd practisau mor ddiogel â phosibl. Hefyd, mae pwysau ariannol anferth arnynt a all olygu y bydd yn rhaid i lawer ohonynt gau, gan waethygu problemau mynediad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

7,583 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl yn sgil y ffaith bod gwasanaethau deintyddol yn y broses o gael eu hailagor yn raddol ar yr adeg pan gafodd y ddeiseb ei thrafod.